Dalen Gartref

Tafarn fwyd wledig ym mhentref prydferth Llanfihangel y Creuddyn, dim ond 7 milltir o Aberystwyth, yw’r Ffarmers. Mae’r dafarn newydd ailagor ei drysau ar ôl cael ei hadnewyddu’n llwyr yn dilyn tân difrifol fis Ionawr 2018, a achosodd ddifrod mawr. Yr ydym wedi ymdrechu i gadw cymaint a fedrem o nodweddion gwreiddiol yr adeilad, ac wedi creu nodweddion newydd hardd i gyd-fynd â’r hen.

Mae’r fwydlen yn cynnwys cynnyrch lleol, sy’n newid yn gyson yn ôl yr hyn sydd ar gael. Mae gennym ddewis da o gwrw go iawn, seidr, a jin arbenigol. Mae’r Ffarmers yn lle delfrydol i alw heibio am ddiod neu i fwynhau pryd o fwyd da gyda theulu a ffrindiau.

I weld adolygiadau annibynnol o’r dafarn,  ewch i tripadvisor

AMSERAU AGOR

dydd Llun – ar gau

dydd Mawrth – 6-11 yh (gweinir bwyd rhwng 6-8.30)

dydd Mercher – 12-2.30 a 6-11 yh (gweinir bwyd 12-2, 6-8.30)

dydd Iau – 12-2.30 a 6-11 yh (gweinir bwyd 12-2, 6-8.30)

dydd Gwener – 12-2.30 a 6 tan yn hwyr (gweinir bwyd 12-2, 6-9)

dydd Sadwrn – 12-3 a 6 tan yn hwyr  (gweinir bwyd 12-2, 6-9)

dydd Sul – 12-5 (gweinir bwyd 12-3)

DEWISLEN

Cyslltwch

Get in Touch CY

Manylion Cyswllt

Y Ffarmers,

Llanfihangel-y-Creuddyn,

Aberystwyth SY23 4LA

01974 261275

Byddwch gymdeithasol

Y wefan gan InSynch