BWYD
Mae’r Ffarmers yn gweini bwyd o 6 yr hwyr ar ddydd Mawrth hyd amser cinio dydd Sul. Yr ydym ar gau bob dydd Llun (ond yn hapus i drafod os hoffech ddod â pharti mawr yma tu allan i’r oriau agor arferol). Yr ydym yn gweini cinio traddodiadol bob dydd Sul rhwng 12 a 3. Cynigir bwyd o safon gan ddefnyddio cynnyrch lleol a thymhorol pryd bynnag mae’n bosib.
Mae’r fwydlen yn newid yn gyson, ond mae ffefrynnau megis Stêc Cymreig, Byrgyr Llysieuol a Physgodyn a Sglodion bob amser ar gael.
Os ydych yn gwneud siwrne arbennig i ymweld â ni, rydym yn argymell eich bod yn rhoi galwad i sicrhau bod bwrdd ar gael, oherwydd mae’n medru bod yn brysur iawn yma.
Mae’r bwydlenni isod yn rhoi syniad o beth yr ydym yn ei gynnig. Rhowch alwad i 01974 261275 os hoffech wybod beth sydd ar ein bwydlen bresennol.
DIod
Mae’r Ffarmers yn dŷ rhydd, felly medrwn gynnig diodydd y gwyddom y bydd ein cwsmeriaid yn eu mwynhau. Mae gennym wybodaeth eang am gwrw-go-iawn, seidr, cwrw a jin arbenigol, a gwinoedd.
Yr ydym yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio cyflenwyr lleol, ac nid oes angen teithio’n bell i ddod o hyd i fragdai a distylltai lleol da. Yr ydym yn cynnig cwrw gan Fragdy Mantle, cwmni gwobrwyedig o Aberteifi, jin o ddistylltai Dyfi ym Machynlleth, a Dà Mhile yn Llandysul. Curadur ein gwinoedd yw Alistair o gwmni Lush Wines yn Sir Benfro.
Cyslltwch
Get in Touch CY
Dolenni Cyflym
Manylion Cyswllt
Y Ffarmers,
Llanfihangel-y-Creuddyn,
Aberystwyth SY23 4LA
01974 261275
Byddwch gymdeithasol
Y wefan gan InSynch