HANES

Mae Caitlin a Lewis yn berchen Y Ffarmers er 2017. Yn anffodus, cyn pen blwyddyn, difrodwyd y dafarn hardd gan dân mawr. Ni anafwyd neb, diolch byth, ond yr oedd y niwed i’r adeilad yn ddifrifol.  Mae’r ailadeiladu wedi cymryd dros flwyddyn, ond yr ydym wedi llwyddo o’r diwedd! Caitlin sy’n arwain tîm y Ffarmers, ac er i’r dafarn fod ar gau am gyfnod hir, yr ydym yn ffodus ein bod wedi llwyddo i gadw bron pob un aelod o’r staff ffyddlon a ffantastig!

 Mae’r rhan fwyaf o’r staff gweini wedi eu magu yn y pentref, ac  maent bob amser yn hapus i gael sgwrs am hanes y pentref a’r eglwys hynafol, neu i gynghori ar bethau i’w gweld neu i’w gwneud yn yr ardal.

Bu Caitlin yn aelod o dîm Y Ffarmers am nifer o flynyddoedd  cyn gwireddu breuddwyd a chymryd yr awenau. Mae’n ferch leol a fynychodd Ysgol Gynradd Llanfihangel ac mae ei gwreiddiau’n ddwfn yn ei chynefin.  Mae gan Caitlin ddiddordeb mawr mewn pobl a diwylliannau eraill sydd wedi ei thywys i fannau pellennig ar draws y byd, ac sydd yn ei dro wedi meithrin ei chariad tuag at fwydydd lleol, safonol. Yn ogystal â’i chariad tuag at fwyd da, mae gan Caitlin hoffter mawr o jin, yn enwedig jin arbenigol a gynhyrchir gan gwmnïau llai. Mae ‘na ddewis da ohono ar gael yn y Ffarmers, ac mae Caitlin bob amser yn barod i gael sgwrs am jin!

Yn ogystal â rhedeg Y Ffarmers, mae Caitlin a Lewis yn rhedeg tafarn arall heb fod ymhell, sef y Druid Inn yn Goginan. Lewis sy’n arwain y tîm yn y Druid. Mae’n wahanol i’r Ffarmers, yn dafarn yfed mwy traddodiadol, ond eto’n cynnig bwyd tafarn clasurol da. Mae ganddynt hefyd far symudol, The Crafty Mare, sef trelar cario ceffyl wedi ei droi’n far. Sefydlwyd y fenter hon tra bod Y Ffarmers ar gau, ac mae’r Crafty Mare ar gael i’w logi ar gyfer priodasau, partïon, gwyliau cerddorol ac achlysuron arbennig. Ceir mwy o wybodaeth am y Druid a’r Crafty Mare ar eu tudalennau Facebook.

Cyslltwch

Get in Touch CY

Manylion Cyswllt

Y Ffarmers,

Llanfihangel-y-Creuddyn,

Aberystwyth SY23 4LA

01974 261275

Byddwch gymdeithasol

Y wefan gan InSynch